2013 Rhif 1567 (Cy. 144)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Traffordd yr M4 (Cyffordd 49, Pont Abraham, Sir Gaerfyrddin) (Terfyn Cyflymder 50 MYA) 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

  Gweinidogion Cymru sydd â’r pŵer i wneud rheoliadau mewn cysylltiad â defnyddio ffyrdd arbennig o dan adran 17(2) a (3) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (ac eithrio mewn cysylltiad â ffyrdd arbennig yn gyffredinol) i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer uchod, yn gwneud y Rheoliadau hyn sy’n gosod terfyn cyflymder uchaf o 50 milltir yr awr (yn lle’r terfyn cyflymder cyffredinol o 70 milltir yr awr a osodir ar draffyrdd gan Reoliadau Traffig Traffyrdd (Terfyn Cyflymder) 1974 (O.S. 1974/502)) ar y darn o draffordd yr M4 a bennir yn y Rheoliadau.  

Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn gan mai am resymau diogelwch ar y briffordd y’i gwnaed ac ni fydd yn cael unrhyw effaith ar gostau busnes.

 


2013 Rhif 1567 (Cy. 144)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Traffordd yr M4 (Cyffordd 49, Pont Abraham, Sir Gaerfyrddin) (Terfyn Cyflymder 50 MYA) 2013

Gwnaed                               25 Mehefin 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       27 Mehefin 2013

Yn dod i rym                   23  Gorffennaf 2013

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 17(2) a (3) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([1]), ac ar ôl ymgynghori ag unrhyw gyrff cynrychioliadol y tybiwyd eu bod yn briodol yn unol ag adran 134(2)  o’r Ddeddf honno([2]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a dehongli

1. Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Gorffennaf 2013 a’u henw yw Rheoliadau Traffordd yr M4 (Cyffordd 49, Pont Abraham, Sir Gaerfyrddin) (Terfyn Cyflymder 50 MYA) 2013.

2. Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “traffordd yr M4” (“the M4 motorway”)  yw Traffordd yr M4 o Lundain i Dde Cymru.

Gosod terfyn cyflymder

3. Ni chaiff neb yrru cerbyd yn gyflymach na 50 milltir yr awr ar y darn hwnnw o gerbytffordd tua’r gorllewin traffordd yr M4 sy’n ymestyn o bwynt sy’n 600 o fetrau i’r de o’i chyffordd â’r gylchfan ym Mhont Abraham (Cyffordd 49) yn Sir Gaerfyrddin hyd at ei chyffordd â’r gylchfan honno.

 

          

 

Edwina Hart

 

Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

 

25 Mehefin 2013

 



([1])           1984 p.27. Yn rhinwedd O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, ac adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae’r pwerau hyn yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru o ran Cymru.

([2])           Diwygiwyd adran 134(2) gan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p.22), Atodlen 8, paragraff 77.